Ein prif gronfa fuddsoddi ar gyfer cyllido twristiaeth yw'r Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth, Cymru (CBTC) ac Y Pethau Pwysig.
-
Croeso i Feicwyr
Ym mis Gorffennaf 2027, am y tro cyntaf erioed, bydd Cymru'n cynnal un o gymalau ras fyd-enwog y Tour de France. Bydd cymal olaf y DU (Cam 3) yn rhedeg o'r Trallwng i Gaerdydd.
Mae’r digwyddiad hwn yn cynnig cyfle unigryw i:
- godi proffil Cymru ar lwyfan y byd,
- cryfhau ei henw da fel cyrchfan o safon fyd-eang, a
- chefnogi ein huchelgais i sefydlu Cymru fel cenedl flaenllaw ar gyfer beicio.
Roedd cam cyntaf rhaglen Croeso i Feicwyr ar agor i awdurdodau lleol a Pharciau Cenedlaethol, a daeth y cyfnod ar gyfer cyflwyno datganiadau o ddiddordeb i ben ar 7 Awst 2026. Anogwyd y ddau i gynnwys prosiectau a oedd yn cael eu cyflawni gan y trydydd sector a sefydliadau dielw eraill yn eu ceisiadau.Mae 54 o brosiectau wedi’u cymeradwyo, gan helpu i wella cyfleusterau beicio a galluogi ymwelwyr i ddarganfod llwybrau newydd, ymweld ag atyniadau lleol a manteisio i’r eithaf ar yr hyn sydd gan gymunedau Cymru i’w gynnig.Mae rhagor o wybodaeth am y gronfa a’r prosiectau sydd wedi’u cymeradwyo ar gael ar dudalen Cyllid Hanesyddol | Eich cefnogi | Diwydiant Croeso Cymru. -
Croeso i Feicwyr: Cronfa Busnes yn Barod
Mae'r cronfa yma yn helpu busnesau a sefydliadau cymunedol i fod yn fwy croesawgar i feicwyr.
Bydd y gronfa’n cael ei darparu drwy awdurdodau lleol, a bydd y broses ymgeisio ar gyfer awdurdodau lleol yn agor maes o law. Dewch yn ôl i’r dudalen hon a chadwch lygad ar ein cyfathrebiadau am y wybodaeth ddiweddaraf.
Bydd yn helpu caffis, tafarndai, bwytai, darparwyr llety, atyniadau i ymwelwyr a sefydliadau cymunedol i wneud gwelliannau, fel darparu mannau parcio beiciau, mannau gwefru e-feiciau a chyfleusterau atgyweirio.
Gallwch anfon unrhyw gwestiynau am y gronfa i CronfaCroesoiFeicwyr@llyw.cymru
-
Cronfa Croeso i Bawb (hygyrch)
Mae Croeso i Bawb yn gynllun cyllid cyfalaf sy’n helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch i greu profiadau mwy hygyrch a chynhwysol i ymwelwyr.
Mae’n cefnogi gwelliannau ffisegol i gael gwared ar rwystrau i ymwelwyr ag ystod eang o anghenion hygyrchedd, gan annog busnesau i fynd y tu hwnt i ofynion cyfreithiol a chynnig croeso cynhesach i bawb.
Daeth y gronfa i ben ar gyfer ceisiadau am 5pm ar 28 Medi 2026, a bydd ymgeiswyr yn cael gwybod am y canlyniadau ym mis Tachwedd. Rhaid cyflawni prosiectau yn ystod blwyddyn ariannol 2026-2027, a rhaid i’r holl wariant gael ei wneud a’i hawlio erbyn 12 Mawrth 2027.
Gall gwella hygyrchedd helpu eich busnes i ddenu mwy o ymwelwyr. Gall helpu pobl i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt cyn iddynt gyrraedd, lleihau rhwystrau a chreu profiad mwy croesawgar.
Mae adnoddau ac ysbrydoliaeth ar sut i wneud hygyrchedd yn rhan o’ch busnes twristiaeth ar gael ar ein tudalen: Hybu twristiaeth yng Nghymru. Creu profiadau i bawb | Diwydiant
Mae manylion y gronfa ar gael ar dudalen: Cyllid hanesyddol | Cefnogi chi | Digwydiant Croeso Cymru
-
Cronfa Y Pethau Pwysig
Mae y Pethau Pwysig yn gronfa gyfalaf sy’n darparu gwelliannau ar raddfa fach i seilwaith twristiaeth ledled Cymru.
Mae’r gronfa bellach ar gau ar gyfer ceisiadau, ac mae’r prosiectau’n cael eu cyflawni.
Mae rhagor o wybodaeth am y gronfa a’r prosiectau sydd wedi’u cymeradwyo ar gael ar dudalen Cyllid hanesyddol | Cefnogi chi | Digwydiant Croeso Cymru
-
Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth, Cymru (CBTC)
Mae Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth Cymru (CBTC) yn cyfuno cyllid masnachol a grantiau mewn un pecyn o gymorth ariannol i ddarparu buddsoddiad cyfalaf ar gyfer y sector. Mae’r gronfa gwerth £50 miliwn yn cael ei darparu gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Banc Datblygu Cymru.
Amcanion y gronfa
Amcan allweddol y Gronfa ydi helpu i ariannu buddsoddiad cyfalaf mewn prosiectau twristiaeth sydd â chyfle i greu argraff gadarnhaol ar y sector a datblygu economi Cymru.Diben y gronfa
- Sicrhau bod prosiectau twristiaeth yng Nghymru yn dal i allu manteisio ar gyllid
- Helpu’r sector twristiaeth drwy’r cyfnod pontio o’r ddibyniaeth ar arian grant i gyfnod lle mae’n gweithredu ar sail benthyciadau masnachol.
- Caniatáu defnyddio arian cyhoeddus mewn maes a allai gael effaith sylweddol ar yr economi.
- Gallu cefnogi buddsoddiadau strategol, a allai fod yn rhai sylweddol, yn ôl yr angen.
Beth mae'r gronfa'n ei ariannu?
- Bydd y gronfa yn darparu cyfalaf i fusnesau twristiaeth, rhwng £100,000 a £5,000,000 i brosiectau cymwys.
- Mae’r cyfnod ad-dalu rhwng 10 a 15 mlynedd, a gall gynnwys ysbeidiau talu tymhorol.
- Maen golygu mwy o hyblygrwydd o ran ariannu.
- Mae'r arian ar gael o'r adeg y bydd prosiect yn dechrau ac fe’i telir fesul cyfran drwy’r cyfnod datblygu.
- Mae'r taliadau benthyciad masnachol a grant cymwys yn cael eu cyfuno er mwyn lleihau cost y cyllid drwyddi draw.
Pwy sy'n gymwys?
Mae Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth, Cymru yn gronfa fuddsoddi sy’n cynnwys cymysgedd o arian ad-daladwy ac arian nad yw’n ad-daladwy, fydd yn targedu prosiectau buddsoddi cyfalaf cymwys yn y sector twristiaeth yng Nghymru.
Dylai prosiectau gynnig profiad twristiaeth unigryw a deniadol sydd â’r potensial i ddenu mwy o ymwelwyr i’r ardal a sicrhau buddion ehangach i’r economi ymwelwyr. Gellid ei defnyddio un ai i uwchraddio asedau presennol, neu i greu asedau newydd, o safon uchel, yn y sector twristiaeth.
Rhoddir blaenoriaeth i fuddsoddiadau sy’n gallu dangos cyfraniad sylweddol at brofiad cyffredinol ymwelwyr a rhoi rheswm cryf dros ymweld. Dylai fod ganddynt y potensial i gynyddu nifer yr ymwelwyr, eu gwariant a/neu hyd eu harhosiad drwy gydol y flwyddyn.
I gael ei ystyried am gymorth, bydd angen i ymgeisydd:
- Ymrwymo i gefnogi strategaeth Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru a dangos ymrwymiad i bedwar gofyniad y Contract Economaidd
- Bod wedi’i leoli yng Nghymru a dangos sut bydd y prosiect yn ysgogi twf mewn marchnadoedd newydd a marchnadoedd presennol, ac yn creu a/neu ddiogelu swyddi
- Dangos hyfywedd ariannol a’r gallu i ad-dalu dros gyfnod y pecyn ariannu.
Mae’r gronfa yn cynnwys proses ymgeisio ddau-gam. Mae’r cam cyntaf yn cynnwys ffurflen Mynegi Diddordeb ac, os bydd y busnes yn llwyddiannus ar y cam hwn, caiff ei wahodd wedyn i wneud cais llawn.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am y gronfa, anfonwch ebost at CBTC@llyw.cymru.
Mae cwestiynau cyffredin ar gael hefyd.
Cynigion a wnaethbwyd 01 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2024
I gael gwybodaeth gyffredinol ynghylch sut i gael gafael ar gyllid a dewis y math cywir, ewch i brif wefan Busnes Cymru.