Mae Croeso Cymru yn eich gwahodd i fod yn rhan o stryd Cymru yn Sioe British Tourism & Travel Show (BTTS) rhwng 19-20 Mawrth 2025, NEC, Birmingham. 

Dyma gyfle i chi ddangos eich brand i weithredwyr teithiau coets, cyfanwerthwyr a threfnwyr teithio grŵp yn ystod digwyddiad masnach deithio mwyaf y DU.

BTTS

  • Mae’r sioe wedi ennill ei blwyf fel y digwyddiad busnes mwyaf yn niwydiant twristiaeth ddomestig Prydain ac Iwerddon ers dros 20 mlynedd. 
  • Prif digwyddiad diwydiant teithio arweiniol ym Mhrydain ac Iwerddon. 
  • Mae yn denu rhyw 3,000 o ymwelwyr gyda’r gallu i brynu.
  • Yr unig digwyddiad diwydiant teithio o’r fath yma i’w gynnal yn yr NEC. 
  • Mae'n dod â gwestai, atyniadau a chyrchfannau ynghyd i weithio gyda phobl allweddol sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau o ran trefnu gwyliau a theithiau. 

 Gallwch gwrdd â:

  • Cwmnïau bysiau
  • Trefnwyr teithiau 
  • Trefnwyr teithiau grŵp
  • Asiantaethau teithio
  • Cyfanwerthwyr
  • Trefnwyr addysg ac ieuenctid
  • Trefnwyr digwyddiadau chwaraeon

Mae Croeso Cymru wedi neilltuo lle ar gyfer 9 pod fel rhan o bafiliwn Cymru ac wedi llwyddo i gytuno ar y gyfradd a ganlyn gyda'r trefnwyr:

  • Cyfanswm y gost am un pod ar gyfer partneriaid: £1,650.00 + TAW  
  • Dewis ar gyfer 2 bartner ar y mwyaf i rannu pod a'r gost: £825.00 + TAW 

Noder nad yw'r gost hon ar gyfer partneriaid yn cynnwys costau teithio a chynhaliaeth. Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael a byddant yn cael eu neilltuo ar sail y cyntaf i'r felin.

Mae'r pecynnau yn cynnwys:

  • Celfi: cwpwrdd, 2 stôl  
  • Bwrdd graffig – gwaith celf i'w ddarparu gan yr arddangoswr. Os ydych yn dymuno, gallwch ddod â’ch standiau baner eich hun ar gyfer eich ardal 2 fetr x 2 fetr yn lle darparu gwaith ar gyfer argraffu byrddau graffig.
  • Bwrdd ffasgia ar gyfer enw'r cwmni 
  • Golau a charped 
  • Mae Wi-fi AM DDIM ar gael yn y neuadd.  

Digwyddiad ar gyfer y diwydiant teithio yn unig yw BTTS ac ni fydd cyfle ichi gwrdd yn uniongyrchol â defnyddwyr. Rhaid bod gennych gynnyrch sy'n ymwneud â'r diwydiant teithio a rhaid ichi gynnig cyfraddau’r diwydiant (comisiwn/cyfraddau net). Rhaid bod unrhyw ddarparwr llety sy'n dymuno arddangos ei gynnyrch wedi'i raddio o dan gynllun sicrhau ansawdd yr AA neu Croeso Cymru. Mae angen i ddarparwyr gweithgareddau fynd drwy Gynllun Achredu Croeso Cymru lle bo angen.

Mentrau unigryw yn y sioe

Rhaglen Brynu ar gyfer Gwesteion Pwysig

Gan weithio'n agos gyda phartneriaid ac arddangoswyr

  • mae'r sioe yn cynnal proses gymhwyso gadarn sy'n golygu bod yn rhaid i brynwyr fodloni meini prawf trylwyr. 

Mae hyn felly yn sicrhau eich bod yn cwrdd â'r bobl a all wneud gwahaniaeth i'ch busnes.

Trefnu Cyfarfodydd

  • Gall pob arddangoswr fanteisio ar y dechnoleg hon yn rhad ac am ddim. 
  • Cewch gysylltu â phrynwyr cyn y sioe a gofyn am gyfarfod â nhw er mwyn llenwi eich dyddiadur. 
  • Mae'r rheini sy'n trefnu cyfarfodydd ymlaen llaw yn dueddol o gael mwy o fudd o'r digwyddiad. 

Pwy ddylai arddangos?

Cyflenwyr twristiaeth sy'n dymuno gweithio gyda'r diwydiant teithio, gan gynnwys:

  • Gwestai  
  • Atyniadau i ymwelwyr 
  • Darparwyr profiad
  • Cwmnïau marchnata cyrchfannau 
  • Lleoliadau chawaraeon
  • Theatrau
  • Arbenigwyr lleol 
  • Darparwyr trafnidiaeth

Pam arddangos?

  • Hyrwyddo eich sefydliad i gynulleidfa barod
  • Cwrdd, a chreu cysylltiadau â darpar gwsmeriaid
  • Cryfhau perthnasau â’ch cwsmeriaid presennol
  • Codi ymwybyddiaeth o’ch brand yn y farchnad
  • Bod yn bresennol ymhlith eich cystadleuwyr
  • Adeiladu eich rhwydwaith a datblygu partneriaethau newydd

I archebu lle

Os oes gennych ddiddordeb mewn mynd i'r sioe, cysylltwch â Lloyd Jones ar 01733 889684 neu anfonwch e-bost at ljones@divcom.co.uk. Os ydych yn mynd i'r sioe, rhaid bod rhywun yn bresennol yn eich pod ar y ddau ddiwrnod, gyda 2 berson ar y mwyaf ar unrhyw adeg.

Os hoffech wybod mwy am bafiliwn Croeso Cymru, cysylltwch â Tracey Rogers ar 0300 061 6093 neu anfonwch e-bost i: tracey.rogers@llyw.cymru

 

Straeon Perthnasol