Os ydych chi’n chwilio am gysylltu â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau allweddol yn y Diwydiant Teithio grŵp, mae Croeso Cymru yn eich gwahodd i fod yn rhan o bafiliwn Croeso Cymru yn Sioe British Tourism & Travel Show (BTTS) ar Mawrth 2026, yn NEC, Birmingham.
Mae BTTS yn dod â'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau at ei gilydd sydd yn chwilio am syniadau ffres ar gyfer gwyliau grŵp, teithiau diwrnod ac ymweliadau.
Pam arddangos?
- Cyfarfod a gwneud busnes gyda phrynwyr allweddol o'r Diwydiant Teithio Grŵp;
- Cryfhau perthnasoedd gyda chwsmeriaid presennol;
- Codi eich proffil yn y Diwydiant Teithio grŵp;
- Bod yn weladwy ymhlith eich cystadleuwyr;
- Adeiladu cysylltiadau gwerthfawr a thyfu eich rhwydwaith proffesiynol.
Pwy ddylai arddangos?
Cyflenwyr twristiaeth sy'n dymuno gweithio gyda'r Diwydiant Teithio, gan gynnwys:
- Gwestai
- Atyniadau i ymwelwyr
- Darparwyr profiad
- Cwmnïau marchnata cyrchfannau
- Lleoliadau chawaraeon
- Theatrau
- Arbenigwyr lleol
- Darparwyr trafnidiaeth
Gallwch cwrdd â
Croesawodd BTTS dros 2,000 o fynychwyr o 23 o wledydd yn 2025 gan gynnwys:
- Cwmnïau bysiau;
- Trefnwyr teithiau;
- Trefnwyr teithiau grŵp;
- Asiantaethau teithio;
- Cyfanwerthwyr;
- Trefnwyr addysg ac ieuenctid;
- Trefnwyr digwyddiadau chwaraeon.
Mentrau unigryw yn y sioe
Rhaglen Brynu ar gyfer Gwesteion Pwysig
Gan weithio'n agos gyda phartneriaid ac arddangoswyr
- mae'r sioe yn cynnal proses gymhwyso gadarn sy'n golygu bod yn rhaid i brynwyr fodloni meini prawf trylwyr.
Mae hyn felly yn sicrhau eich bod yn cwrdd â'r bobl a all wneud gwahaniaeth i'ch busnes.
Trefnu Cyfarfodydd
- Gall pob arddangoswr fanteisio ar y dechnoleg hon yn rhad ac am ddim.
- Cewch gysylltu â phrynwyr cyn y sioe a gofyn am gyfarfod â nhw er mwyn llenwi eich dyddiadur.
- Mae'r rheini sy'n trefnu cyfarfodydd ymlaen llaw yn dueddol o gael mwy o fudd o'r digwyddiad.
Cynnig arddangos
Mae Croeso Cymru wedi neilltuo lle ar gyfer 9 stondin fel rhan o bafiliwn Cymru ac wedi llwyddo i gytuno ar y gyfradd a ganlyn gyda'r trefnwyr:
- Cyfanswm y gost am un stondin ar gyfer partneriaid: £1,800 + TAW
- Dewis ar gyfer 2 bartner ar y mwyaf i rannu stondin a'r gost: £900 + TAW
Noder nad yw'r gost hon ar gyfer partneriaid yn cynnwys costau teithio a chynhaliaeth. Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael a byddant yn cael eu neilltuo ar sail y cyntaf i'r felin.
Mae'r pecynnau yn cynnwys
- Celfi: cwpwrdd, 2 stôl;
- Bwrdd graffig – gwaith celf i'w ddarparu; gan yr arddangoswr. Os ydych yn dymuno, gallwch ddod â’ch standiau baner eich hun ar gyfer eich ardal 2 fetr x 2 fetr yn lle darparu gwaith ar gyfer argraffu byrddau graffig;
- Bwrdd ffasgia ar gyfer enw'r cwmni
- Golau a charped;
- Mae Wi-fi AM DDIM ar gael yn y neuadd.
I archebu lle
Os oes gennych ddiddordeb mewn mynd i'r sioe, cysylltwch â Lloyd Jones ar 01733 889684 neu anfonwch e-bost at ljones@divcom.co.uk.
Os hoffech wybod mwy am bafiliwn Croeso Cymru, cysylltwch â Tracey Rogers ar 0300 061 6093 neu anfonwch e-bost i: tracey.rogers@llyw.cymru
Os ydych yn mynd i'r sioe, rhaid bod rhywun yn bresennol yn eich stondin trwy'r dydd, gyda 2 berson ar y mwyaf ar unrhyw adeg.
Digwyddiad ar gyfer y Diwydiant Teithio yn unig yw BTTS ac ni fydd cyfle ichi gwrdd yn uniongyrchol â defnyddwyr. Rhaid bod gennych gynnyrch sy'n ymwneud â'r Diwydiant Teithio a rhaid ichi gynnig cyfraddau’r diwydiant (comisiwn/cyfraddau net). Rhaid bod unrhyw ddarparwr llety sy'n dymuno arddangos ei gynnyrch wedi'i raddio o dan gynllun sicrhau ansawdd yr AA neu Croeso Cymru. Mae angen i ddarparwyr gweithgareddau fynd drwy Gynllun Achredu Croeso Cymru lle bo angen.