Datgloi cyfleoedd busnes newydd
Fel rhan olaf o'r rhaglen hyfforddiant ar y Diwydiant Teithio a dosbarthu digidol pwrpasol, cynhaliodd Croeso Cymru weminar ymarferol â ffocws a gynlluniwyd i gefnogi busnesau ar bob cam o'u taith. Os nad ydych eto'n gwbl gyfarwydd â'r Diwydiant Teithio a dosbarthu ar-lein, bydd yn eich helpu i ddeall sut mae'r sianeli hyn yn gweithio a sut i ddechrau.
Mae'r sesiwn olaf yn cynnwys:
- Crynodeb clir o gynnwys allweddol y tair sesiwn, gan gynnwys sut mae'r diwydiant teithio yn gweithio
- Atebion i gwestiynau cyffredin
- Yn dysgu camau ymarferol, realistig y gallwch eu cymryd ar unwaith i wella eich gwelededd, gwneud archebu gyda chi yn fwy deniadol a gwella eich llwyddiant masnachol
- Byddwch yn cael adborth gan weithredwyr teithiau a chwmnïau rheoli cyrchfannau
- Sut y gall tîm y Diwydiant Teithio Croeso Cymru eich helpu chi
Gwybodaeth ddefnyddiol:
- Cyflwyniad: PDF
- Gwybodaeth am Gymru ar gyfer y Diwydiant Teithio | Diwydiant Teithio Cymru (Saesneg yn unig)
- Ynglŷn â'r Fasnach Deithio | Diwydiant Croeso Cymru
- Cwrdd â Croeso Cymru mewn digwyddiadau ar gyfer y Diwydiant Teithio | Diwydiant Teithio Cymru (Saesneg yn unig)
- Cynlluniau Ansawdd | Cefnogi chi | | Diwydiant Croeso Cymru
Cysylltu â ni:
- Hyfforddwr y sesiwn: Karin Gidlund | LinkedIn
- Tîm y Diwydiant Teithio Croeso Cymru: traveltradewales@llyw.cymru
- Cyfryngau cymdeithasol Croeso Cymru Masnach Deithio :
- X: @VisitWalesTrade
- LinkedIn: Travel Trade Wales
- Facebook: Travel Trade Wales
Roedd y rhaglen yn cynnwys tair sesiwn hyfforddi ymarferol ar-lein a oedd yn cynnwys:
- Deall y diwydiant teithio
- Dosbarthu traddodiadol o fewn y diwydiant teithio
- Dosbarthu digidol a gwelededd ar-lein
Mae'r holl sesiynau wedi cael eu recordio ac ar gael i'w gwylio ar-lein. Dulliau ymarferol o gyrraedd cwsmeriaid newydd | Diwydiant
I gael y manteision llawn, gwyliwch bob un o'r tair sesiwn hyfforddi ar-lein.
Cyfle ar gyfer mentora un‑i‑un
Yn rhan o'r rhaglen, treialodd Croeso Cymru hefyd gynllun mentora busnes un‑i‑un gyda nifer fach o fusnesau twristiaeth yng Nghymru. Rydyn ni'n gobeithio cynnal y rhaglen hon eto yn y dyfodol. Os hoffech gael eich rhoi ar restr aros i glywed yn gyntaf am y cyfle ac i gael eich ystyried, cwblhewch a chyflwyno’r Ffurflen Gais ar-lein.
I fod yn gymwys i wneud cais, bydd angen i chi fod wedi mynychu neu wylio'r tair sesiwn hyfforddi ar-lein. Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn erbyn meini prawf penodol.