Twristiaeth feicio Cymru yn cael Grand Départ gyda buddsoddiad o £4.5m
Mae Cymru'n paratoi ar gyfer Grand Départ Tour de France 2027 gyda £4.5 miliwn o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru drwy raglen Croeso i Feicwyr. Daw’r buddsoddiad wrth i Gymru baratoi i groesawu Grand Départ y Tour de France yn 2027. Bydd Croeso Cymru hefyd yn nodi 2027 fel Blwyddyn Beicio.
Mae cyfanswm o 54 o brosiectau ledled Cymru wedi sicrhau £3.2 miliwn i wella seilwaith beicio, gan gynnwys canolfannau beicio, cyfleusterau llogi beiciau, gwelliannau llwybrau a phwyntiau gwefru e-feiciau. Nod y buddsoddiad yw denu mwy o ymwelwyr, cefnogi busnesau lleol a chreu etifeddiaeth feicio barhaol.
Mae'r prosiectau sy'n derbyn cymorth yn cynnwys:
- Llwybr Beicio Arfordirol Porth Caergybi yng Ngogledd Cymru, gan wella cysylltiadau beicio o un o gyrchfannau porth allweddol Cymru.
- Hybiau Beicio Gogledd Powys, gan greu rhwydwaith o gyfleusterau beicio ar draws pum tref i helpu ymwelwyr i ddarganfod atyniadau lleol.
- Cylchdaith Taith Brenin y Mynyddoedd yn Ne Cymru, sy'n annog beicwyr i fynd i'r afael â rhai o ddringfeydd mwyaf eiconig Cymru ac archwilio cymunedau cyfagos.
Croeso i Feicwyr: Busnes yn Barod
Bydd ail gam y rhaglen yn gweld £1.3 miliwn ar gael drwy'r Gronfa Croeso i Feicwyr: Busnes yn Barod.
Wedi'i chyflawni drwy awdurdodau lleol, bydd y gronfa yn cefnogi busnesau a sefydliadau cymunedol sydd wedi'u lleoli ar lwybrau beicio neu gerllaw iddynt i wneud gwelliannau ymarferol fel parcio beiciau, cyfleusterau atgyweirio a gwefru e-feiciau. Y nôd yw helpu busnesau i ddod yn fwy croesawgar i feicwyr, annog gwariant ymwelwyr a sicrhau bod cymunedau ledled Cymru yn elwa o dwristiaeth beicio cynyddol.