Teimla'r hwyl yn Nghymru

Wal hwyl - rhannwch eich stori

Mae’r wal hwyl i'w gweld ar wefan Croeso Cymru ac mae ein holl weithgareddau marchnata yn gyrru traffig i’r wefan.  Mae'r  "wal" yn llawn adegau o hwyl a llawenydd ledled Cymru. Os hoffech i'ch busnes neu gyrchfan gael ei ystyried i ymddangos fel rhan o gynnwys y wal hwyl, anfonwch e-bost at Croeso@llyw.cymru, y cyfan sydd ei angen arnom yw enw cyswllt, e-bost ac enw eich busnes, ac yna byddwn yn cysylltu â chi. 

Rydym yn annog partneriaid i barhau i ddefnyddio'r asedau yr ymgyrch hwyl.

Defnyddiwch y tagiau canlynol i helpu ledaenu'r neges ar draws sianeli:  #Teimla'rHwyl #Hwyl a #CroesoCymru

Pod Cymru

Defnyddio hiwmor a chomedi i werthu Cymru fel cyrchfan gwyliau yw'r union beth rydyn ni wedi'i wneud gyda Pod of Wales. Lansiwyd podlediad Pod of Wales ar 19 Ionawr gydag ymgyrch ddigidol wedi'i thargedu ar draws Meta a Spotify. Mae'r gyfres yn cynnig ffordd fywiog a diddorol i ymwelwyr brofi Cymru trwy sain, gan fynd â gwrandawyr ar "daith glywadwy" dan arweiniad y comedïwyr Cymreig Kiri Pritchard McLean ac Esyllt Sears.

Wedi ei gynhyrchu Little Wander mewn cydweithrediad â Croeso Cymru, mae'r gyfres yn dod â rhai o lefydd mwyaf lliwgar Cymru yn fyw fel Llangollen, Abertawe, Sir y Fflint a'r Gelli Gandryll trwy hiwmor, adrodd straeon a mewnwelediad diwylliannol. Wedi'u cynllunio i ysbrydoli teithio yn y dyfodol, mae'r penodau yn arddangos bwyd, tirwedd, hanes a chymeriad Cymreig, gan annog cynulleidfaoedd i grwydro Cymru gyda'r un chwilfrydedd a llawenydd y mae'r rhai sy’n croesawu yn ei roi i bob antur.

Pod Cymru

Podlediad teithio comedi gyda Kiri Pritchard‑McLean ac Esyllt Sears. Taith glywadwy drwy rai o olygfeydd mwyaf lliwgar Cymru. (Saesneg yn unig)

Partneriaeth ar y cyfryngau

Mae ein partneriaethau ar y cyfryngau yn parhau i chwarae rhan allweddol wrth arddangos Cymru i gynulleidfaoedd newydd a chynulleidfaoedd sy'n dychwelyd. Mae cydweithrediadau diweddar yn cynnwys eitemau gyda Cool Stays, The Telegraph, Culture Trip a sawl platfform blaenllaw arall, gan ein helpu i dynnu sylw at Gymru drwy gynnwys digidol effaith uchel, erthyglau ysbrydoledig, ac adrodd straeon diddorol. Mae'r partneriaethau hyn yn adeiladu gwelededd cryf i Gymru fel dewis gorau ar gyfer gwyliau byr a phrofiadau cofiadwy.

Telegraph 
Mae’r bartneriaeth ddiweddaraf gyda Telegraph yn gosod Cymru fel cyrchfan o'r radd flaenaf ar gyfer antur, diwylliant, moethusrwydd a 'hwyl', gan gynnig ysbrydoliaeth bwerus i ymwelwyr gwerth uchel. Cyhoeddwyd yr erthygl "Why now is the time to sample Wales’s special kind of luxury" (Saesneg yn unig) ym mis Ionawr 2026 ac mae'n tynnu sylw at ddiddordeb cynyddol ymhlith ei chynulleidfa mewn darganfod profiadau a chynhyrchion moethus Cymreig.

Coolstays 
Cyhoeddodd Coolstays nodwedd bwysig yn tynnu sylw at chwe rheswm cymhellol dros ddewis Cymru yn 2026 (Saesneg yn unig). Mae'r erthygl yn gosod Cymru fel cyrchfan ysbrydoledig, sy'n gyfoeth o brofiad sy'n cyd-fynd yn berffaith â'n neges Hwyl.

Mae'r post partneriaeth cyfryngau Coolstays isod yn Saesneg yn unig.

Cyfryngau'r DU a Rhyngwladol
Dros y chwarter nesaf, bydd ein tîm yn parhau i fynd ati i ymgysylltu â chyfryngau'r DU ac yn rhyngwladol i sbarduno'r galw i ymweld â Chymru. Bydd ymweliadau â'r cyfryngau yn parhau, yn enwedig yn y DU, a mynychodd y tîm ddigwyddiadau byd-eang allweddol fel International Media Market Place (IMM) yn Llundain ac ITB Berlin yn yr Almaen ar ddechrau'r mis hwn. Mae'r digwyddiadau hyn yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i gwrdd â channoedd o gynrychiolwyr y cyfryngau, ac yn gadel i ni arddangos storïau amrywiol Cymru i annog sylw yn y wasg ac ymweliadau thematig yn y dyfodol.

Cymru yn yr Almaen - Tyfu ymwybyddiaeth ryngwladol

Ym mis Hydref 2025, lansiwyd ein gweithgaredd partneriaeth cyfryngau Hydref / Gaeaf ledled yr Almaen trwy gydweithrediadau â llwyfannau newyddion dylanwadol gan gynnwys: 

  • FAZ.net
  • SZ.de
  • ZEIT
  • Spiegel
  • Handelsblatt 
  • Welt.de

Fe wnaethom gyrraedd dros 5.5 miliwn o ddarllenwyr gyda chynnwys ar ffurf hysbyseb golygyddol diddorol.

Er mwyn ysbrydoli darpar deithwyr, gwnaethom hefyd bartneru â phorth teithio ar-lein mawr, Travelbook.de a Merian.de, gan dynnu sylw at dreftadaeth gyfoethog Cymru, tirweddau syfrdanol a phrofiadau unigryw i unigolion chwilfrydig ledled yr Almaen. Yn ogystal, gweithiodd Croeso Cymru gyda Globetrotter, un o brif fanwerthwyr awyr agored ac antur yr Almaen, i ddarparu ystod o weithgareddau ar-lein sy'n hyrwyddo cynhyrchion antur ac awyr agored Cymru.

Beicio
Mae Croeso Cymru yn cynnal partneriaeth cyfryngau gyda BIKE Magazine (beicwyr mynydd/oddi ar y ffordd) a TOUR Magazine (beicio ffordd) o'r Almaen rhwng 23 Chwefror a 23 Mawrth. Mae'r gweithgaredd yn cynnwys dwy hysbyseb sy'n canolbwyntio ar Gymru ac e-gylchlythyr pwrpasol TOUR Magazine a anfonir at 23,400 o danysgrifwyr, gyda chefnogaeth hysbysebion sy'n gyrru darllenwyr at y cynnwys.

Chill Cymru

Mae Chill Cymru yn adlewyrchu awydd cynyddol ymhlith teithwyr i ailgysylltu, arafu a blaenoriaethu lles, rhan o'n hymgyrch hwyl ehangach sy'n hyrwyddo'r cysylltiadau emosiynol, synhwyraidd a llawen y gall ymwelwyr eu profi yng Nghymru. Mae Chill Cymru yn dod â thawelwch Cymru yn fyw trwy seinweddau hamddenol wedi'u hysbrydoli gan ASMR a theithiau tywys myfyriol a grëwyd fel rhan o ymgyrch hwyl. Fe'i lansiwyd gydag ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus ym mis Ionawr ac fe'i cefnogwyd gan ymgyrch ddigidol o fis Chwefror, ac mae'r gyfres yn gwahodd cynulleidfaoedd i arafu, anadlu a phrofi corneli mwyaf heddychlon Cymru mewn ffordd hollol newydd.

P'un a oes gennych ddau funud neu ugain munud, teimlwch i dawelwch Cymru yn golchi drosoch. 

Mae’r daith fyfyriol hon yn cael ei siapio gan wenyn, cân adar, awel ysgafn a sibrwd meddal y wlad agored; anadlwch i mewn y tawelwch ymhlith meysydd lafant Cefnperfedd Uchaf yng nghefn gwlad canolbarth Cymru.

Y Diwydiant Teithio - adeiladu ar gyfer 2027 a thu hwnt

Mae ein tîm y Diwydiant Teithio yn mynd ati i ymgysylltu ag asiantau teithio a chwmniau teithio sy'n cynllunio eu rhaglenni ar gyfer 2027 a thu hwnt. Rydym bob amser yn chwilio am ddiweddariadau o ran cynnyrch a phrofiadau newydd i'w hyrwyddo i ddarpar gwsmeriaid newydd. Parhewch i anfon eich newyddion a'ch gwybodaeth i Productnews@llyw.cymru.

Gwyliwch ein sesiynau hyfforddi ar-lein sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddysgu am lwybrau newydd i gyrraedd cwsmeriaid newydd. Mae hyn yn cynnwys eich helpu i wneud y gorau o sianeli dosbarthu teithio gan gynnwys ar-lein a drwy'r Diwydiant Teithio (cwmniau ac asiantau teithio).

Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn lansio sianel archebu cost-effeithiol 

Gall busnesau twristiaeth nawr roi hwb i archebion a gwelededd drwy wefan archebu uniongyrchol newydd Trafnidiaeth Cymru. Wedi’i phweru gan Tourism Exchange Great Britain (TXGB), mae’n addas ar gyfer:

  • llety
  • atyniadau
  • profiadau 
  • darparwyr teithiau

Mae cofrestru am ddim, a dim ond ffi archebu o 2.5% sy’n daladwy pan fydd archeb yn cael ei wneud.

Eisiau cyrraedd cwsmeriaid newydd a rhoi hwb i'ch archebion? Cewch yr holl fanylion yma.

Straeon Perthnasol

Grŵp o ffrindiau yn gwneud ioga, yn mwynhau sawna a nofio mewn dŵr oer ar draeth Niwgwl, Sir Benfro.

Darganfyddwch eich eiliad o Hwyl yng Nghymru

Mae ein gweithgarwch marchnata rhyngwladol yn yr Almaen yn parhau i dyfu, gydag ymgyrch ddigidol yn rhedeg ar draws Meta, Pinterest a YouTube, wedi’i chefnogi gan bartneriaethau cyfryngau proffil uchel. O gynhyrchu cynnwys arwrol ac erthyglau hysbysebu, rydym yn arddangos tirluniau, diwylliant a hwyl sydd i gael yng Nghymru i filiynau o deithwyr chwilfrydig.

Portmeirion, Gogledd Cymru

Mae Cymru yn denu sylw’r byd

Darganfyddwch sut mae tîm Cyfryngau Croeso Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â newyddiadurwyr a chyrff cyfryngau ledled y DU ac yn rhyngwladol i rannu stori Cymru.