Crynodeb o'r canfyddiadau allweddol
Sut mae'r ymchwil hwn wedi cael ei gynnal ?
Comisiynodd Croeso Cymru Strategic Research and Insight (SRI), asiantaeth ymchwil annibynnol sydd wedi'l lleoli yng Nghaerdydd, i gynnal ymchwil flynyddol gyda'r diwydiant teithio. Maint y sampl ymchwil eleni yw 500 - yn cynnwys 463 o gyfweliadau dros y ffôn a 37 o ymatebion ar-lein gyda gweithredwyr teithiau yn y DU (domestig a thu hwnt) a tramor. Cynhaliwyd yr holl waith maes rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2025.
Gwerth amcangyfrifedig o £37m i Gymru
Amcangyfrifir bod gweithredwyr y mae Croeso Cymru wedi rhyngweithio â nhw mewn marchnadoedd allweddol wedi cynhyrchu 405,200 o nosweithiau gwely gwerth £37.0m i Gymru yn 2024 (£33.0m yn 2023).
Amcangyfrifir bod Croeso Cymru wedi dylanwadu ar oddeutu £17.4m o'r cyfanswm gwerth – cynnydd sylweddol o £11.5m yn 2023. Mae hyn yn deillio o 28% o weithredwyr a wnaeth gynnwys Cymru yn 2024 yn dweud bod gwybodaeth a syniadau Croeso Cymru yn 'bwysig iawn' wrth eu helpu i gynnwys neu werthu cynhyrchion Cymru, a 27% arall yn dweud bod y gefnogaeth yn 'eithaf pwysig'.
Mae poblogaeth gyfan y fasnach deithio yn fwy ar y cyfan na'r gweithredwyr y mae Croeso Cymru wedi bod mewn cysylltiad â nhw. Felly, mae'n debygol y bydd cyfaint gwirioneddol y busnes masnach deithio sy'n dod i Gymru yn 2024 wedi bod yn fwy na £37.0m.
Gwerth yn ôl marchnadoedd allweddol
Cyfrannodd gweithredwyr (domestig a mewnfudo) yn y DU £20.3m yn 2024 – dros hanner y cyfanswm. Cyfrannodd Gogledd America £7.9m a chyfrannodd marchnadoedd Almaeneg eu hiaith £2.6m.
Cynnydd yn y ffordd weithredol o hyrwyddo Cymru
Roedd ychydig dros hanner (54%) o weithredwyr yn cynnwys Cymru yn eu teithiau a'u rhaglenni yn 2024. Ymhlith y rhain, roedd 44% yn hyrwyddo Cymru'n weithredol – cynnydd sylweddol o 30% yn 2023.
Rhanbarthau Cymru dan sylw
Roedd gweithredwyr a oedd yn cynnwys Cymru yn 2024 yn cynnig lefel resymol o ledaeniad rhanbarthol yn gyffredinol. Roedd llawer (72%) yn cynnwys Gogledd Cymru, ac yna Caerdydd (67%), De-orllewin Cymru (54%), De-ddwyrain Cymru y tu allan i Gaerdydd (52%) a Chanolbarth Cymru (45%).
Sut olwg sydd ar 2025?
Amcangyfrifir bod gwerth busnes masnach teithio i Gymru yn 2025 yn £40.3m – cynnydd o 9%. Fodd bynnag, disgwyliwyd i lawer o'r twf ddod o Ogledd America, ac ers y gwaith maes ym mis Chwefror / Mawrth, mae ymchwil ehangach i'r diwydiant yn dangos efallai na fydd Gogledd America yn perfformio cystal ag y disgwylir oherwydd ansicrwydd economaidd.
Cynnydd mewn diddordeb yng Nghymru ymhlith gweithredwyr
Mae gan lawer o weithredwyr (63%) ddiddordeb mewn datblygu neu werthu mwy o gynhyrchion Cymru. Mae'r gyfran sydd â 'diddordeb cryf' (32%) wedi cynyddu'n sylweddol o 19% yn ymchwil y llynedd.
Lledaeniad tymhorol
Mae diddordeb cryf mewn anfon pobl i Gymru yn ystod misoedd tymor ysgwydd Mai a Medi. Gall y rhan fwyaf (78%) o weithredwyr sydd â diddordeb yng Nghymru ragweld anfon pobl ym mis Mai, a dywed 70% y gallant ragweld anfon pobl ym mis Medi.
Beth yw'r bylchau yng nghynnyrch Cymru?
Mae'r diffyg canfyddedig o westai o ansawdd da y tu allan i ddinasoedd mawr sydd â lle i grwpiau ac a fydd yn gweithio'n dda gyda'r fasnach deithio yn rhwystr allweddol i fwy o fusnes ddod i Gymru.
Mae mynediad canfyddedig i hediadau hefyd yn rhwystr. Mae Croeso Cymru yn codi ymwybyddiaeth yn weithredol ymhlith gweithredwyr y gellir cyrraedd Cymru yn hawdd o faes awyr Caerdydd neu feysydd awyr Bryste, Birmingham a Manceinion hefyd. Mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o weithredwyr yn gwybod hyn, ond nid yw rhai'n hoffi'r amser teithio a byddai'n well ganddynt weld hediadau uniongyrchol i Gymru.
Yn benodol i'r farchnad ddomestig, mae problemau gyda parcio bysiau mewn mannau poblogaidd i dwristiaid.
Beth yw'r cyfleoedd i Gymru?
Efallai mai cryfder mwyaf Cymru yn y farchnad deithio yw, unwaith y bydd ymwelwyr yn dod, eu bod bron bob amser yn fodlon â'u profiad. Mae harddwch naturiol Cymru yn rheswm allweddol dros eu boddhad.
Mae hyn yn rhoi cymhelliant i rai gweithredwyr barhau i gynnwys a hyrwyddo Cymru er gwaethaf ymwybyddiaeth isel ymhlith defnyddwyr oherwydd eu bod yn hyderus y bydd cwsmeriaid yn ei hoffi os byddant yn dod.