Gan weithio i Strategaeth Digwyddiadau Cenedlaethol Cymru 2022-2030, rydym wedi datblygu ffordd gydgysylltiedig a chydlynol o gefnogi digwyddiadau mawr.
Mae’r Cynllun Gweithredu yn manylu sut y bydd hyn yn cael ei gyflawni, nodi targedau a blaenoriaethau, a rhoi mwy o fanylion am y cynllun.
Mae digwyddiadau’n hybu enw da rhyngwladol Cymru a lles ei phobl a'i chymunedau. Maent yn darparu manteision economaidd sylweddol i'r dinasoedd a'r rhanbarthau sy'n eu cynnal. Yn ei dro, mae hyn yn helpu i ysgogi twf busnes a mentrau newydd.
Nid yw Digwyddiadau Cymru ei hun fel arfer yn cynnal digwyddiadau. Ond rydym yn gweithio gydag amrywiaeth eang o bartneriaid a rhanddeiliaid ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector, yng Nghymru a thu hwnt.
Ffocws y gwaith yw:
- Denu digwyddiadau rhyngwladol mawr sy'n creu elw mawr ar fuddsoddiad ac yn cyfrannu at hyrwyddo brand Cymru.
- Gweithio'n strategol gyda phartneriaid lleol a rhanbarthol i nodi digwyddiadau twf posibl a chwilio am gyfleoedd i greu digwyddiadau newydd.
- Ffocws parhaus a phenodol ar ddigwyddiadau busnes (MICE).
- Helpu i ddatblygu sylfaen sgiliau gref o wybodaeth a phrofiad. Mae hyn yn hanfodol i ddatblygu diwydiant digwyddiadau cynaliadwy sy’n cynnig portffolio o ddigwyddiadau deniadol.
- Cefnogi cyflawni yn erbyn 7 nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 gan gynnwys nodi a thynnu sylw at yr hyn sy'n gwneud profiad y digwyddiad yng Nghymru yn wahanol.


Buddion bod yng Nghymru
Dyma ychydig o fanteision i gynnal digwyddiad yng Nghymru:
- Gallwn gynnig cefnogaeth partneriaeth gref tîm Cymru, sy’n hen gyfarwydd â llwyddiant.
- Gallwn gydweithio’n rhagweithiol â chi i gryfhau’ch brand drwy ddatblygu ‘naws am le’ unigryw a Chymreig ar gyfer eich digwyddiad.
- Gallwn gynnig amrywiaeth o gyfleusterau o safon fydeang i chi, gan gynnwys Stadiwm Principality, ICC Wales, Venue Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru.
- Mae gennym hefyd olygfeydd godidog. Mae ein tirwedd a’n harfordir yn cynnig cefndir ac arena awyr agored anhygoel.
- Mae gennym naratif dilys cyfoethog ac amrywiol y gellir ei ysgogi er mwyn gwella eich digwyddiad.
Dolenni
Cynllun Cymhorthdal Digwyddiadau Busnes
Mae'r Cynllun Cymhorthdal Digwyddiadau Busnes wedi'i oedi ac yn cael ei adolygu. Nid ydym yn derbyn ceisiadau newydd ar hyn o bryd.
Nôd yr adolygiad hwn yw gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd y cynllun, gan ganolbwyntio ar ystyried digwyddiadau busnes newydd i Gymru sydd angen cymorth ychwanegol ar gyfer creu profiadau diwylliannol cofiadwy.
Rydym yn gwerthfawrogi eich dealltwriaeth a'ch amynedd yn ystod y cyfnod hwn. Bydd diweddariadau pellach yn cael eu cyfathrebu trwy ein sianeli swyddogol.
Diolch am eich cefnogaeth barhaus.
Cysylltwch â ni
E-bost Digwyddiadau Cymru : digwyddiadaucymru@llyw.cymru
Os hoffech y cyfle i gael eich ychwanegu at Gronfa Ddata Rhanddeiliaid Digwyddiadau Cymru er mwyn gallu derbyn gwybodaeth a diweddariadau am y sector, anfonwch e-bost gan ddarparu’r wybodaeth ganlynol:
- Enw
- Teitl swydd
- Digwyddiad/Sefydliad
- Cyfeiriad e-bost
- Dewis o ran iaith ar gyfer gohebiaeth (Cymraeg/Saesneg)
Gallwch weld manylion ynghylch sut rydym yn storio, rheoli a defnyddio eich gwybodaeth yn ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Rhanddeiliaid Digwyddiadau Cymru.