Dulliau ymarferol o gyrraedd cwsmeriaid newydd
Mae Croeso Cymru yn eich gwahodd i gyfres o dri sesiwn hyfforddi ar-lein ymarferol, hawdd eu dilyn sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddysgu am ffyrdd newydd o gyrraedd cwsmeriaid newydd.
Bydd yr hyfforddiant hwn yn eich helpu:
- Ddeall sut mae'r diwydiant deithio yn gweithio a pham mae'n bwysig i'ch busnes
- Gwnewch y gorau o sianeli dosbarthu - cwmniau teithiau, asiantau teithio, a phlatfformau ar-lein, i gynyddu gwelededd ac archebion.
- Magu hyder a darganfod y tueddiadau diweddaraf, p'un a ydych yn newydd i'r diwydiant teithio neu angen gloywi.
Mae recordiad o Sesiwn 1 (a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2025), ynghyd â dolenni defnyddiol eraill, ar gael isod. Bydd sesiynau yn y dyfodol yn adeiladu ar y sylfeini hyn ac yn archwilio strategaethau ychwanegol i helpu'ch busnes i ffynnu.
Mae recordiad o sesiynau 2 a 3 ar gfael hefyd:
- Sesiwn 2: Dosbarthu yn y Diwydiant Teithio (a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2025)
- Sesiwn 3: Dosbarthu digidol a gwelededd ( a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2026)
Sesiwn 1: Deall y Diwydiant Teithio
Cyflwyniad i gyrraedd cwsmeriaid newydd trwy'r diwydiant teithio a dosbarthu ar-lein. Rydym yn cynnwys:
- Beth yw'r "diwydiant teithio" (traddodiadol a digidol)?
- Sut mae'r diwydiant teithio yn gweithio?
- Pam gweithio gyda'r diwydiant teithio?
- Beth mae gwahanol farchnadoedd yn chwilio amdano?
Gwybodaeth ddefnyddiol:
- Cyflwyniad: Sesiwn 1 (PDF)
- Gwybodaeth am Gymru i'r Fasnach Teithio | Fasnach Teithio Cymru (Saesneg yn unig)
- Hanfodion y Diwydiant Teithio | Diwydiant Croeso Cymru
- VisitBritain (Saesneg yn unig)
Cysylltwch â ni
- Hyfforddwr sesiwn: Karin Gidlund | LinkedIn
- Tîm Diwydiant Teithio Croeso Cymru: traveltradewales@llyw.cymru
- Cyfryngau cymdeithasol Diwydiant Teithio Croeso Cymru:
- X: @VisitWalesTrade
- LinkedIn: Travel Trade Wales
- Facebook: Travel Trade Wales
Cyfle ar gyfer mentora un‑i‑un
Yn rhan o'r rhaglen, treialodd Croeso Cymru hefyd gynllun mentora busnes un‑i‑un gyda nifer fach o fusnesau twristiaeth yng Nghymru. Rydyn ni'n gobeithio cynnal y rhaglen hon eto yn y dyfodol. Os hoffech gael eich rhoi ar restr aros i glywed yn gyntaf am y cyfle ac i gael eich ystyried, cwblhewch a chyflwynwch y ffurflen gais ar-lein.
I fod yn gymwys i wneud cais, bydd angen i chi fod wedi mynychu neu wylio'r tair sesiwn hyfforddi ar-lein. Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn erbyn meini prawf penodol.