Mae nifer o ffyrdd o weithio gyda Croeso Cymru i wneud y mwyaf o gyfleoedd i'ch busnes. Gallwch wneud y canlynol:

  • Cofrestru ar gyfer y newyddlen i ddefnyddwyr a'r cyfryngau cymdeithasol

    Cysylltwch â diwydiant Croeso Cymru. Cadwch yn gyfredol gyda’r newyddion a’r cyfleoedd twristiaeth diweddaraf ar gyfer eich sefydliad. Mae hyn yn cynnwys diweddariadau ar gyllid, deddfwriaeth allweddol y diwydiant a gweminarau.

  • Logo Cymru Wales

    Sicrhau eich Sicrwydd Ansawdd

    Mae sêr graddio yn arwydd o ansawdd. Mae cynlluniau cymeradwyo a sicrhau ansawdd Croeso Cymru yn rhad ac am ddim. Maen nhw'n rhoi hyder i ymwelwyr bod eich busnes yn bodloni safonau cydnabyddedig.

    Gellir cynnwys busnesau sydd â Sicrwydd Ansawdd ar restr cynnyrch Croeso Cymru. Mae cyfleoedd eraill yn cynnwys erthyglau i'r wasg, ymweliadau â'r cyfryngau ac erthyglau gwefan.

    Mae Croeso Cymru hefyd yn cynnig Gwobrau Croeso. Mae’r rhain yn cydnabod busnesau sy’n darparu cyfleusterau a gwasanaethau ychwanegol i ddiwallu anghenion penodol ymwelwyr. Gellir ychwanegu’r rhain at eich rhestr i gryfhau eich cynnig ymhellach.

    Sut i gael sicrwydd ansawdd.

    Mae’n bwysig arddangos y plac graddio cywir yn eich busnes a defnyddio’r logo priodol ar eich gwefan.

  • Ychwanegwch eich cynnyrch neu digwyddiad i visitwales.com

    Fel busnes graddedig, gallwch restru eich cynnyrch neu ddigwyddiad am ddim ar visitwales.com. Mae hyn yn eich helpu i gyrraedd ymwelwyr sy’n cynllunio taith i Gymru. Mae ein hymgyrchoedd marchnata yn gyrru traffig i’r wefan, felly mae’n bwysig cadw eich rhestr yn gyfredol i gryfhau proffil eich cynnig.

  • Gweithio gyda Croeso Cymru i rannu eich newyddion a diweddariadau am gynnyrch

    Gadewch inni wybod am eich newyddion, eich cynnwys a'ch cynnyrch diweddaraf drwy e-bostio Productnews@llyw.cymru.

    Gallwn rannu a chynnwys eich gwybodaeth am gynnyrch:

    • mewn cynnwys digidol
    • ar deithiau ymgyfarwyddo
    • mewn diweddariadau i’r wasg a’r cyfryngau
    • ac gyda ein partneriaid megis VisitBritain ar gyfer eu ymgyrchoedd.
  • Cadwch lygad ar yr ymchwil a'r mewnwelediadau diweddaraf i'r economi ymwelwyr

    Gallwch gael mynediad i'r ymchwil ddiweddaraf gan dîm Ymchwil a Mewnwelediadau Croeso Cymru. Mae hyn yn cynnwys data i’ch helpu i ddeall:

    • y galw gan ymwelwyr
    • tueddiadau’r farchnad
    • perfformiad busnes er mwyn gallu gwneud penderfyniadau gwybodus.

    Archwiliwch adroddiadau sydd ar gael a chysylltwch â’r tîm trwy Ymchwil a Mewnwelediadau | Diwydiant.

  • Gweithio gyda'r Diwydiant Teithio a Digwyddiadau Busnes

    Rydym yn gweithio gyda busnesau o Gymru i gyrraedd marchnadoedd y Diwydiant Deithio a Digwyddiadau Busnes byd-eang.

    Mae cyfleoedd yn cynnwys erthyglau yn ein:

    • cynnwys digidol
    • taflenni gwybodaeth a theithlenni
    • cymryd rhan mewn teithiau ymgyfarwyddo ar gyfer trefnwyr teithiau ac asiantau
    • ymuno â ni mewn digwyddiadau masnach allweddol.

    Os ydych yn cynnig lleoliadau, llety, gweithgareddau neu brofiadau sy’n addas ar gyfer FITs, grŵp neu dîm, gallwn eich helpu i hyrwyddo eich cynnig i brynwyr rhyngwladol digwyddiadau busnes. Mae hyn yn cynnwys profiadau bwyta, teithiau wedi’u curadu, neu weithgareddau diwylliannol ac antur.

  • Cynyddu gwerthiannau gyda Chyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr (TXGB) a Siop VisitBritain

    Platfform digidol yw TXGB sy'n cysylltu llety, atyniadau, profiadau a theithiau gyda mwy o gwsmeriaid.  Rydym wedi cydweithio â TXGB i roi gwell mynediad i fusnesau Cymru i sianeli gwerthu ar-lein, er mwyn cynyddu archebion uniongyrchol. Gallwch hefyd gyrraedd cynulleidfaoedd rhyngwladol a domestig newydd ar Siop VisitBritain

  • Datblygwch eich gweithlu drwy ein hadnoddau sgiliau a’n cymorth

    Darganfyddwch rhai o’r adnoddau, cyllid a’r cymorth sydd ar gael i’ch busnes i gefnogi recriwtio, hyfforddiant a datblygu sgiliau. Enghraifft o hyn ydi'r cyllid y Rhaglen Sgiliau Hyblyg.

    Cymorth sgiliau, recriwtio a hyfforddi i fusnesau | Diwydiant

  • Cofrestrwch i ddefnyddio gwefan asedau brand Cymru Wales am ddim

    Darganfyddwch asedau brand Cymru Wales am ddim i gefnogi eich gweithgareddau marchnata eich hun yng Nghymru. Defnyddiwch ein pecynnau cymorth ymgyrchu i alinio eich gwaith cyfathrebu ag ymgyrchoedd marchnata Croeso Cymru.

    Cofrestrwch i bori a lawrlwytho ein hasedau Brand Cymru Wales.

  • Cysylltwch drwy gymryd rhan yn ein hymgyrchoedd – cofrestrwch ar gyfer cylchlythyrau defnyddwyr a dilynwch ein sianeli cymdeithasol

    Cadwch mewn cysylltiad â Croeso Cymru.  Cymerwch ran yn ein hymgyrchoedd marchnata diweddaraf. Dilynwch ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am y newyddion diweddaraf, digwyddiadau ac ysbrydoliaeth.

    Rydym hefyd yn anfon cylchlythyrau rheolaidd at ddefnyddwyr gyda gwybodaeth am bethau i’w gwneud, lleoedd i aros, digwyddiadau a chystadlaethau.

  • Creu naws am le i annog ymweliadau dro ar ôl tro

    Mae naws am le yn gwella profiad ymwelwyr ac yn annog ymweliadau pobl i ddod yn ôl i ymweld. Trwy greu cysylltiad emosiynol â Chymru, gall busnesau roi profiad cofiadwy i ymwelwyr. Profiad sy'n eu gwneud nhw fod eisiau ei rannu, ac eisiau dychwelyd yma. Gellir mynegi hyn drwy’r synhwyrau, o fwyd lleol i ddefnyddio yr iaith, gwasanaeth ac adrodd straeon.

    Mae busnesau'n chwarae rhan hanfodol yn y broses o lunio sut mae Cymru yn cael ei phrofi. Trwy ychwanegu cyffyrddiadau lleol i eiliadau bob dydd, rydych chi'n dod ag ymdeimlad o Gymreictod yn fyw ac yn cryfhau apêl Cymru fel cyrchfan.

    Sut i annog ymwelwyr i ddychwelyd drwy Ymdeimlad o Gymreictod.

  • Cefnogi Twristiaeth Gyfrifol trwy Addo

    Mae'r ymgyrch Addo yn annog pobl ledled Cymru i gymryd camau syml. Mae’r camau hyn yn helpu i warchod yr amgylchedd, cefnogi cymunedau lleol a dathlu diwylliant Cymru, gan helpu i wneud Cymru’n lle gynaliadwy i fyw ynddi ac i ymweld â hi.

    Darganfyddwch am y pethau hawdd y gallwch eu gwneud i gefnogi twristiaeth gyfrifol.

I gael rhagor o gymorth ar weithio gyda Croeso Cymru, cysylltwch â'ch Rheolwr Ymgysylltu Rhanbarthol Croeso Cymru.

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr y diwydiant

Tanysgrifiwch i gylchlythyr Croeso Cymru ar gyfer y diwydiant twristiaeth er mwyn derbyn y newyddion a’r datblygiadau diweddaraf.

Straeon Perthnasol