Yn hydref 2023, roeddem yn falch o gael roi croeso'n ôl i'n sioeau teithiol wyneb yn wyneb a gafodd eu cynnal ar gyfer y diwydiant ym mhob cwr o Gymru. Mae'r cyflwyniadau a roddwyd yn ystod y sioeau teithiol i'w gweld isod.
Er nad oedd modd cynnal cyfarfodydd a digwyddiadau wyneb yn wyneb yn ystod pandemig Covid, parhaodd Croeso Cymru i gyfarfod â rhanddeiliaid yn aml drwy ddulliau rhithwir. Roedd y gweminarau ar gyfer y diwydiant yn amhrisiadwy i Croeso Cymru ac i'n rhanddeiliaid fel ei gilydd, ac maen nhw bellach yn rhan o'r digwyddiadau craidd rydym yn eu cynnal er mwyn ymgysylltu â'r diwydiant.
Bydd yr holl ddigwyddiadau y bwriedir eu cynnal yn y dyfodol yn cael eu rhestru yma unwaith y byddant wedi cael eu cadarnhau. Yn y cyfamser, ewch ati i weld sut y gallwch weithio gyda Croeso Cymru, gan gynnwys tanysgrifio i gael ein cylchlythyrau, a dysgu sut i gymryd rhan ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol.
Gweminarau
Webinar17Oct24Gweminar marchnata Croeso Cymru - 17 Hydref 2024, 2:00 pm – 3.30 pm
Cofrestrwch nawr ar gyfer gweminar marchnata Croeso Cymru i glywed am ein cynlluniau ar gyfer Blwyddyn Croeso 2025 a'n hymgyrch farchnata newydd flaenllaw i Gymru. Byddwn yn cyflwyno ein cynlluniau ar gyfer ymgyrch 2025, a fydd yn cael eu cyflawni o dan ymbarél y flwyddyn thematig. Bydd y sesiwn hefyd yn cynnwys diweddariadau a throsolwg o:
- Gweithgaredd marchnata diweddar a chyfredol
- Gweithgaredd y diwydiant teithio
- Gwefan newydd i'r Diwydiant
- Gwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2025
Cofrestrwch ar gyfer eich lle erbyn 4:00 pm, 14 Hydref ar: Digwyddiadur Busnes Cymru - Mae gweminar marchnata Croeso Cymru