Dulliau ymarferol o gyrraedd cwsmeriaid newydd

Mae Croeso Cymru yn eich gwahodd i gyfres o dri sesiwn hyfforddi ar-lein ymarferol, hawdd eu dilyn sydd wedi'u cynllunio i'ch helpu i ddysgu am ffyrdd newydd o gyrraedd cwsmeriaid newydd.

Bydd yr hyfforddiant hwn yn eich helpu:

  • Ddeall sut mae'r diwydiant deithio yn gweithio a pham mae'n bwysig i'ch busnes
  • Gwnewch y gorau o sianeli dosbarthu - cwmniau teithiau, asiantau teithio, a phlatfformau ar-lein, i gynyddu gwelededd ac archebion.
  • Magu hyder a darganfod y tueddiadau diweddaraf, p'un a ydych yn newydd i'r diwydiant teithio neu angen gloywi.

Mae recordiad o Sesiwn 2 (a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2025), ynghyd â dolenni defnyddiol eraill, ar gael isod.  Bydd sesiynau yn y dyfodol yn adeiladu ar y sylfeini hyn ac yn archwilio strategaethau ychwanegol i helpu'ch busnes i ffynnu.

Mae recordiad o sesiynau 1 a 3 ar gfael hefyd:

Sesiwn 2: Dosbarthu yn y Diwydiant Teithio

Cyrraedd cwsmeriaid newydd trwy ddosbarthu traddodiadol o fewn y Diwydiant Teithio. Rydym yn cynnwys:

  • Beth yw'r diwydiant teithio traddodiadol?
  • Beth mae'r diwydiant teithio yn ei ddisgwyl gennych chi?
  • Sut ydych chi'n prisio'ch cynnyrch ar gyfer y diwydiant teithio?
  • Sut ydych chi'n cysylltu â'r diwydiant teithio?

Gwybodaeth ddefnyddiol:

Cysylltwch â ni

Peidiwch â cholli allan - Ymunwch â'r sesiwn terfynol

I gael y manteision llawn, mynychwch neu gwyliwch bob un o'r tair sesiwn hyfforddi ar-lein*. 

*Archwiliadau busnes am ddim -  Er bod yr holl leoedd ar gyfer y sesiynau mentora busnes un-i-un bellach yn llawn, rydyn ni’n gobeithio cynnal yr un sesiynau yn y dyfodol agos. Os hoffech fod ar y rhestr aros i glywed gyntaf am unrhyw gyfleoedd eraill, ac i gael eich ystyried, cwblhewch a chyflwyno’r Ffurflen Gais ar-lein.  I fod yn gymwys i wneud cais bydd angen i chi fod wedi mynychu neu wylio'r tair sesiwn hyfforddi ar-lein (bydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn erbyn meini prawf penodol).

Straeon Perthnasol