Gweithdy ymarferol am ddim, a gyflwynir gan MWT Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru.

Os ydych wedi clywed pobl yn siarad am “AI” ac yn eddwl tybed a yw’n werth eich amser – mae’r gweithdy hwn ar eich cyfer chi.

Byddwn yn dangos ffyrdd go iawn ac ymarferol i chi ddefnyddio offer AI fel ChatGPT i arbed amser, denu mwy o gwsmeriaid, a gwneud i’ch busnes sefyll allan, a helpu i droi diddordeb yn archebion:

  • Creu postiadau cyfryngau cymdeithasol sy'n rhoi sylw, ymgysylltiad ac archebion heb dreulio oriau ar gynnwys.
  • Optimeiddio eich rhestrau Croeso Cymru a Google fel eu bod yn glir, yn gymhellol ac yn hawdd i gwsmeriaid ac offer chwilio AI ddod o hyd iddynt a'ch dewis chi!
  • Ymateb yn gyflym i gwestiynau cwsmeriaid gyda negeseuon cyfeillgar, proffesiynol sy'n adeiladu ymddiriedaeth ac yn rhyddhau eich amser.
  • Arbed oriau ar gynnwys, diweddariadau ac e-byst, gan roi mwy o le i chi ganolbwyntio ar redeg eich busnes yn hytrach na gweinyddu.

"Roedd y gweithdy AI yn anhygoel! Mewn llai na 30 eiliad, asesodd yr offer AI fy ngwefan a dangosodd yn glir i mi pa eiriau allweddol i'w newid i gynyddu nifer yr ymwelwyr a nifer yr archebion. Fe wnaeth fy helpu i greu ymgyrch newydd sbon ar y cyfryngau cymdeithasol o fewn eiliadau a chefais werth wythnosau o gynnwys parod i'w ddefnyddio. Fel busnes twristiaeth, roedd hyn yn hynod ymarferol ac yn hawdd ei gymhwyso ar unwaith. Byddwn yn argymell y gweithdai hyn yn fawr i unrhyw un ym maes twristiaeth neu letygarwch sy'n ceisio arbed amser a bod yn fwy gweladwy. Rwy’ bellach yn hoff iawn o AI, ac rwy'n siŵr y bydd yn helpu i ddatblygu fy musnes eleni."  

Pwy all fynd

Mae'r gweithdy wedi'i gynllunio ar gyfer busnesau twristiaeth a lletygarwch BBaCh a micro, p'un a ydych yn hollol newydd i AI neu eisoes yn arbrofi ac eisiau mwy o strwythur, hyder a chamau nesaf ymarferol.

Er mwyn i gymaint o fusnesau â phosib gael dod, peidiwch â bwcio lle ar gyfer mwy na dau berson y busnes/sefydliad.  Cofiwch, bydd angen ichi archebu ar wahân ar gyfer pob person.

Beth i'w ddisgwyl

Nid yw hyn yn ymwneud â thechnoleg gymhleth na geiriau poblogaidd. Mae'n ymwneud â dulliau syml, cost isel y gallwch ddechrau eu defnyddio ar unwaith, gydag arweiniad cam wrth gam, demos byw, a gweithgareddau ymarferol drwyddi draw.

Byddwn hefyd yn trafod sut y gall newidiadau bach fel diweddaru eich rhestrau neu addasu geiriad eich gwefan, wneud gwahaniaeth mawr wrth helpu ymwelwyr i ddod o hyd i'ch busnes ac ymddiried ynddo ar-lein.

Byddwch yn gadael gyda chamau clir y gallwch eu cymryd yr un diwrnod, boed hynny'n gynllunio eich ychydig bostiadau nesaf neu wneud yn siŵr bod eich busnes yn ymddangos yn y lleoedd iawn.

Eisiau help ychwanegol?

Arhoswch o gwmpas ar gyfer y sesiwn prynhawn dewisol – ein Labordy Gweithredu – lle byddwn yn gweithio gyda chi un-i-un neu mewn grwpiau bach i droi'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu yn weithredu ymarferol ar unwaith.

Manylion y Gweithdai AI

  • 9:30 yb i ddechrau am 10:00 yb
  • 1:00 yp – 1:45 yp Darperir cinio ysgafn
  • 1:45 yp: "Y Labordy Gweithredu" (Sesiwn prynhawn dewisol)
  • 3:30 yp tan cau

Mae'r cynlluniau hyn yn cael eu hariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru.  Cyflwynir gweithdai gan MWT Cymru, sefydliad nid-er-elw sydd wedi bod yn helpu busnesau twristiaeth yng Nghymru ers dros 30 mlynedd. Mae MWT Cymru yn arbenigo mewn ffyrdd syml, effeithiol o roi hwb i'ch gwelededd a gwneud marchnata digidol yn llai o straen.

AI Ymarferol: Gweithdy ymarferol am ddim

Ymunwch â'n gweithdai wyneb yn wyneb i ddysgu ffyrdd ymarferol o ddefnyddio offer AI i arbed amser, denu mwy o gwsmeriaid, a gwneud i'ch busnes sefyll allan, a helpu i droi diddordeb yn archebion

Straeon Perthnasol

Gweinyddes yng Ngwesty Hamdden y Celtic Manor

Cymorth ac adnoddau sgiliau

Dewch o hyd i wybodaeth am y nifer o adnoddau a chyfleoedd sydd ar gael i helpu i ddatblygu’r sgiliau yn eich busnes.

Edrych ar draws marina Aberdaugleddau tuag at gychod, podiau glampio sy’n arnofio, ac adeiladau

Gweithio gyda ni

Darganfyddwch sut gallwch chi weithio gyda thîm diwydiant Croeso Cymru a chysylltu â nhw