Er nad oedd modd cynnal cyfarfodydd a digwyddiadau wyneb yn wyneb yn ystod pandemig Covid, parhaodd Croeso Cymru i gyfarfod â rhanddeiliaid yn aml drwy ddulliau rhithwir. Roedd y gweminarau ar gyfer y diwydiant yn amhrisiadwy i Croeso Cymru ac i'n rhanddeiliaid fel ei gilydd, ac maen nhw bellach yn rhan o'r digwyddiadau craidd rydym yn eu cynnal er mwyn ymgysylltu â'r diwydiant.
Bydd yr holl ddigwyddiadau y bwriedir eu cynnal yn y dyfodol yn cael eu rhestru yma unwaith y byddant wedi cael eu cadarnhau. Yn y cyfamser, ewch ati i weld sut y gallwch weithio gyda Croeso Cymru, gan gynnwys tanysgrifio i gael ein cylchlythyrau, a dysgu sut i gymryd rhan ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae cymryd rhan yn ddarostyngedig i Hysbysiadau Preifatrwydd y Diwydiant Twristiaeth, sy’n amlinellu sut mae recordiadau o weminarau a data mynychwyr yn cael eu trin yn unol â’r GDPR.
2025 Gweminarau
Hydref 2025
Cyfres o weminarau diwydiant sydd wedi'u cynllunio i gefnogi a llywio busnesau twristiaeth ledled Cymru. Bydd y sesiynau ar-lein hyn yn cynnig mewnwelediadau ymarferol ac arweiniad i'ch helpu i gynllunio ar gyfer y misoedd i ddod. Recordiadau ar gael nawr:
- 14 Hydref 2025 - Darganfyddwch Bŵer Mewnwelediadau Twristiaeth gyda Croeso Cymru
- 6 Tachwedd 2025 - Cymru ar lwyfan y byd: Pŵer Digwyddiadau Mawr
- 13 Tachwedd 2025 - Diweddariad marchnata Blwyddyn Croeso ac ymgyrch Hwyl
- 4 Rhagfyr 2025 - Datgloi Pŵer Digwyddiadau: Cyfle drwy gydol y flwyddyn
Gweminarau eraill
- 21 Mai 2025 - Sut i ddatgloi cyfleoedd twristiaeth gwariant uchel
Hyfforddiant ar-lein am ddim i fusnesau twristiaeth
Sesiynau ymarferol i helpu i dyfu eich busnes, cyrraedd cwsmeriaid newydd, a hybu archebion drwy ddefnyddio offer diwydiant teithio a digidol. I gael y manteision llawn, gwyliwch bob un o'r tair sesiwn hyfforddi ar-lein - Recordiadau ar gael nawr:
- Sesiwn 1: Deall y Diwydiant Teithio - 27 Tachwedd 2025
- Sesiwn 2: Dosbarthu yn y Diwydiant Teithio - 10 Rhagfyr 2025
- Sesiwn 3: Dosbarthu digidol a gwelededd - 22 Ionawr 2026
- Sesiwn olaf: Dulliau ymarferol o gyrraedd cwsmeriaid newydd - 25 Mawrth 2026. Sesiwn ymarferol â ffocws sy'n dod â'r dysgu allweddol o'r tair sesiwn ynghyd ac yn eich helpu i symud yn hyderus o theori i weithredu.
Cyfle ar gyfer mentora un‑i‑un
Yn rhan o'r rhaglen, treialodd Croeso Cymru hefyd gynllun mentora busnes un‑i‑un gyda nifer fach o fusnesau twristiaeth yng Nghymru. Rydyn ni'n gobeithio cynnal y rhaglen hon eto yn y dyfodol. Os hoffech gael eich rhoi ar restr aros i glywed yn gyntaf am y cyfle ac i gael eich ystyried, cwblhewch a chyflwynwch y ffurflen gais ar-lein.
I fod yn gymwys i wneud cais, bydd angen i chi fod wedi mynychu neu wylio'r tair sesiwn hyfforddi ar-lein. Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn erbyn meini prawf penodol.