Yn hydref 2023, roeddem yn falch o gael roi croeso'n ôl i'n sioeau teithiol wyneb yn wyneb a gafodd eu cynnal ar gyfer y diwydiant ym mhob cwr o Gymru. Mae'r cyflwyniadau a roddwyd yn ystod y sioeau teithiol i'w gweld isod.
Er nad oedd modd cynnal cyfarfodydd a digwyddiadau wyneb yn wyneb yn ystod pandemig Covid, parhaodd Croeso Cymru i gyfarfod â rhanddeiliaid yn aml drwy ddulliau rhithwir. Roedd y gweminarau ar gyfer y diwydiant yn amhrisiadwy i Croeso Cymru ac i'n rhanddeiliaid fel ei gilydd, ac maen nhw bellach yn rhan o'r digwyddiadau craidd rydym yn eu cynnal er mwyn ymgysylltu â'r diwydiant.
Bydd yr holl ddigwyddiadau y bwriedir eu cynnal yn y dyfodol yn cael eu rhestru yma unwaith y byddant wedi cael eu cadarnhau. Yn y cyfamser, ewch ati i weld sut y gallwch weithio gyda Croeso Cymru, gan gynnwys tanysgrifio i gael ein cylchlythyrau, a dysgu sut i gymryd rhan ar ein sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol.
IndWebinarCYGweminarau
NEWYDD - Gweminarau hydref Croeso Cymru 2025
Cyfres o weminarau diwydiant sydd wedi'u cynllunio i gefnogi a llywio busnesau twristiaeth ledled Cymru. Bydd y sesiynau ar-lein hyn yn cynnig mewnwelediadau ymarferol ac arweiniad i'ch helpu i gynllunio ar gyfer y misoedd i ddod. Cofrestru ar agor:
- 14 Hydref - Darganfyddwch Bŵer Mewnwelediadau Twristiaeth gyda Croeso Cymru
- 6 Tachwedd - Cymru ar lwyfan y byd: Pŵer Digwyddiadau Mawr
- 13 Tachwedd - Diweddariad marchnata Blwyddyn Croeso ac ymgyrch Hwyl
- 4 Rhagfyr - Datgloi Pŵer Digwyddiadau: Cyfle drwy gydol y flwyddyn
Gweminarau blaenorol
- 21 Mai 2025 - Sut i ddatgloi cyfleoedd twristiaeth gwariant uchel
- 17 Hydref 2024 - Gweminar marchnata Croeso Cymru